John ac Alun

john ac alun bach

Deuawd canu gwlad, acwstig Cymraeg yw John ac Alun, sef John Jones ac Alun Roberts o Dudweiliog, Pen Llŷn, Gwynedd. Meant ymhlith yr artistiaid mwyaf llwyddiannus ers iddynt cychwyn recordio yn 1991. Ers 20 mlynedd mae sioe radio poblogaidd iawn ganddynt ar Radio Cymru.

 

 

 


clawr-bach-hir-a-hwyr

John ac Alun wrth y llyw

Mae’n deng mlynedd ers i John ac Alun rhyddhau record hir newydd, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ‘na chryn ddisgwyl wedi bod amdani. Yn rhannol, y rheswm am yr oedi yma oedd dymuniad yr hogia’ i lywio pob agwedd o’r gwaith, hynny o safbwynt pa ganeuon i’w recordio, pa fath o deimlad ddylai fod arnyn nhw a pha fath o gynhyrchiad fyddai’n siwtio orau.

Yng nghartre’ Alun yn Nhudweiliog recordiwyd y cwbl, dros gyfnod o ddwy flynedd. Alun sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r trefniadau â’r offerynnau ar y record yma hefyd, 

FaLang translation system by Faboba