Argraffu
Categori: Côr Llewyrch

Clawr-Gardd-thumb

Mae Esmor Davies, Cymro go iawn sy'n angerddol am godi arian tuag at elusennau, yn mynd i yrru bron i 2,000 o filltiroedd o John O'Groats i Land's End mewn JCB. Mae'n gobeithio codi arian tuag at elusennau nam golwg ar draws y DU. Mi fydd y daith yn cymryd tua 6 wythnos i'w gwblhau - mae'n dechrau ar y 26 Gorffennaf 2014.

Mae'r elusennau mae Esmor yn bwriadu helpu, yn mynd i adeiladu gerddi synhwyrol fel yr un adeiladodd Esmor i gystadlu yn Sioe Flodau'r RHS yng Nghaerdydd yn Ebrill 2014. Fe enillodd Esmor a'i dîm gwobr yr ardd orau yn y sioe, a'r wobr aur am 'Esmor's Woodland Walk', a fuodd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y gân brydferth hon, a berfformir yma gan Côr Llewyrch.

 

£4.99


Gardd O Gariad - EP - Cor Llewyrch

 

Esmor-Marathon

1. Gardd o Gariad
2. Y Darlun (Dwy law yn erfyn)
3. Neithiwr
4. Garden of Love
   

 

 

 

 

I gefnogi ac hyrwyddo'r weithgaredd elusenol yma, fe gomisiynwyd Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain i ysgrifennu'r cân hyfryd yma. Bydd sawl cyngerdd yn cael ei chynnal ar hyd y daith, gyda perfformiadau gan Côr Llewyrch ac artisitiaid lleol eraill. Am rhagor o fanylion, ewch i: http://www.esmorsjcbmarathon.com

 

 

FaLang translation system by Faboba