Côr Llewyrch

Cor-LlewyrchFFurfiwyd yn 2013, ymddangosiad cyhoeddus cyntaf Côr Llewyrch oedd ar y rhaglen 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'. O dan ei Gyfarwyddwr Cerdd - Ilid Anne Jones, mae'r côr yn falch o fod yn gysylltiedig efo nifer o weithgareddau elusenol.




Clawr-Gardd-thumb

Mae Esmor Davies, Cymro go iawn sy'n angerddol am godi arian tuag at elusennau, yn mynd i yrru bron i 2,000 o filltiroedd o John O'Groats i Land's End mewn JCB. Mae'n gobeithio codi arian tuag at elusennau nam golwg ar draws y DU. Mi fydd y daith yn cymryd tua 6 wythnos i'w gwblhau - mae'n dechrau ar y 26 Gorffennaf 2014.

Mae'r elusennau mae Esmor yn bwriadu helpu, yn mynd i adeiladu gerddi synhwyrol fel yr un adeiladodd Esmor i gystadlu yn Sioe Flodau'r RHS yng Nghaerdydd yn Ebrill 2014. Fe enillodd Esmor a'i dîm gwobr yr ardd orau yn y sioe, a'r wobr aur am 'Esmor's Woodland Walk', a fuodd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y gân brydferth hon, a berfformir yma gan Côr Llewyrch.

 

FaLang translation system by Faboba