Argraffu
Categori: Rebownder

rebownder clawr thumb

Mae Iestyn Jones (Rebownder) yn eitha' adnabyddus fel colofnydd 'Y Cymro'. Y flwyddyn yma mae'n ailgynnau un o'i ddiddordebau cynta' - miwsig. Fe ddechreuodd Iestyn ganu yn Eisteddfodau pan oedd yn ifanc... Mae'r gwyliau Cymraeg o lenyddiaeth a miwsig wedi bod yn llwyfan i artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd, felly tydi e ddim yn llawer o syndod felly fod yr Ogleddwr creadigol wedi cymryd ei chamau cynta' fel perfformiwr yno. Mae e'i chaneuon wedi selio ar ei fywyd - ac mae e wedi bod yn un eitha' lliwgar hyd at hyn.

 

£5.99


Dathlu Deugain - Cor Meibion y Traeth Male Voice Choir

 

 

1. Stori Newydd
2. Byw a Bod
3. Hwyl Dda
4. Brand New Story
5. High Times

 

 

 

 

 

"Yn 17-oed, Mi es i 'off y rels' yn Efrog Newydd a glanio mewn Ysbyty Meddwl," mae Iestyn yn datgelu. Roedd hyn, mae'n cyfaddef yn -"Catalydd i lawer o betha'"."Yn fuan wedyn, wrth imi ddod at yn hyn ar ôl y bennod anffodus, mi ddechreuais sgwennu caneuon". Fe barhaodd i sgwennu caneuon ac yn fuan iawn roedd ganddo ddigon o draciau i yrru at BBC Cymru. Yn 2000 fe ddarlledwyd ei sesiwn Radio Cymru gyntaf ar y rhaglen 'Gang Bangor'.

rebownder clawr mediumAr ôl symud i Northampton er mwyn cael hyd i waith fe gafodd ei ddarganfod gan y cynhyrchydd Trefor Moses o'r grŵp dawns -'Bad2 Da Bone'. Roedd Moses wedi arwyddo gyda Recordiau Sanctuary ac yn awyddus i Iestyn canu ar un o'i ganeuon - 'Love Vibrations'. "Roedd hi'n anodd iawn imi gredu Moses hyd nes imi fynd am gyfarfod gyda'r label i Lundain!" Yn anffodus, fe benderfynodd Moses a'i grŵp recordio'r fersiwn terfynol o'r can gyda chanwr arall, "Roedd y syniad o arwyddo gyda label mor fawr a 'Sanctuary' yn eitha' cyffrous ... ar ôl y newyddion drwg roeddwn yn benderfynol o ddyfalbarhau!" A dyna be wnaeth y teithiwr o fri, ond nid yng Nghymru na Lloegr ond Awstralia gyda grŵp pync o'r enw 'Tourists and Terrorists' "Roedd Awstralia yn hwyl ond ar ddiwedd y diwrnod roedd rhaid imi ddychwelyd i Gymru – y fan yna oedd cartref!"

Yn ôl at 2014 ac mae Iestyn yn canolbwyntio ar ei fiwsig eto: "Dwi wedi rhoi gore i yfed ers bron iawn i ddwy flynedd. Rwyf o ddifrif amdan fy miwsig ac felly mae'n rhaid imi aberthu'r hen arferion drwg!" Mae hefyd ar fin rhyddhau EP newydd o'r enw - "Y gwyllt, y gwirion ... a'r gwyrth"Iestyn Jones

Fe recordiwyd y caneuon newydd gyda'r cynhyrchwyr Richard Jackson a Gwilym Hailstone. Fe ysgrifennodd Iestyn gyda Gavin Thomas, 'busker' bu gyfarfod mewn parc, ac mae'r caneuon yn cynnwys Eric Martin ar y gitâr. Mae tad Eric yn gerddor hefyd! Roedd e'n chware gyda'r grŵp byd-enwog 'Technotronic'.

"Mae'r EP newydd gyda rhywbeth at ddant pawb" Meddai Iestyn "Ma yna tipyn o reggae gyda chaneuon fel 'Hwyl Dda' a hefyd mae yna ochr sentimental yna hefyd gyda'r trac Stori Newydd" ychwanegodd

Ac felly, be nesa? Bydd Iestyn yn chwarae'r caneuon newydd yn Eisteddfod Llanelli elenni "Gobeithio ynte, dwi heb gael gwahoddiad i chwarae eto ond fyddai'n siŵr o fod yna rhyw ffordd neu'i gilydd - wnâi'n siŵr o hynny!"

 

 

 

 

 

FaLang translation system by Faboba