Côr Canna

Criw o ffrindiau yn byw yn ardal Caerdydd yw Côr Merched Canna, er eu bod yn wreiddiol yn hannu o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae brwdfrydedd ac egni'r merched yn cael eu hamlygu yn eu canu, ac mae arweiniad Delyth Medi yn eu hysgogi a'u hysbrydoli.  Mae'r côr yn cynhyrchu sain ffres ac unigryw, ac yn canu amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth, o'r clasurol i'r ysgafn, o ganu gwerin i chytganau opera.




thumb cor y traeth

Sefydlwyd Côr Canna nôl yn 1994 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, ac ers hynny mae'r côr wedi datblygu i fod yn un o gorau merched mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn enw adnabyddus ar lwyfan ein prif wyliau cenedlaethol, wedi ennill y prif gystadleuaeth i gorau merched niferoedd o weithiau yn ogystal â dod i'r brig yn y gystadleuaeth i gorau Cerdd dant a chorau gwerin.

Yn ymuno gyda'r cór ar gyfer y record yma mae Shân Cothi.

 

FaLang translation system by Faboba