Cor Meibion y Traeth

Sefydlwyd Côr-y-Traeth yn 1969, dan arweiniad Magdalen Jones ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Môn, a gynhaliwyd y flwyddyn honno ym Mro Goronwy. Erbyn hyn, Magdalen yw Llywydd Anrhydeddus y Côr. Cyfeilyddes y Côr, pryd hynny oedd Eunice Parry, ac fe’i dilynwyd yn 1970 gan Grês Pritchard sydd yn dal i fod hefo’r Côr.






thumb cor y traeth

Artist: Cor Meibion y Traeth
Rhif catalog: ARAN518
Dyddiad rhyddhau: Rhagfyr 5ed 2010


Mae wedi bod yn flwyddyn o ddathlu i un o brif Corau Meibion y Gogledd. Mae’n deugain mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Y Traeth yn ardal Benllech,Ynys Môn. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal i nodi’r achlysur, ac ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd llyfr yn olrhain hanes y Côr, ond fel uchafbwynt i’r cyfan mae’r Côr wedi rhyddhau CD newydd o’r enw ‘Dathlu Deugain’.

Fe ffurfiwyd y Côr er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Môn yn 1969. Dim ond 14 o leisiau oedd yno ar y dechrau o dan arweiniad Mrs Magdalene Jones, athrawes leol a gwraig i’r bardd Dewi Jones. Ers hynny mae yna naw o arweinyddion wedi bod gan y Côr a’r arweinyddes presennol ydy Annette Bryn

FaLang translation system by Faboba