Dyma’r tro cyntaf i fand jazz hir sefydledig fel Dr Jazz gael gafael ar gasgliad o ganeuon Cymraeg. Clywir yn ei triniaeth amryw o arddulliau; y "traddodiadol" o’r oes cynnar yn New Orleans, trwy gyfnod "swing" y 1930-40au hyd at rythmau modern R&B (Rhythm & Blues).
Datblygodd jazz yn y man cyntaf trwy ddehongliadau offerynnol o ganeuon poblogaidd yr oes. Mae nifer o’r caneuon Cymraeg yma yn dod o’r un oes a’r clasuron cynnar Americanaidd. Does rhyfedd felly eu bod mor addas ag yn derbyn y driniaeth yma mewn ffordd mor naturiol. Mae yma ddehongliadau hyfryd o ganeuon traddodiadol gwerinol fel "Suo Gân" ynghyd â hwyl a ffraethineb y caneuon "ffwrdd a hi"!
9.99
Cydnabyddir yn y byd "gwerin" bod aildrefnu ac ail ddehongli caneuon poblogaidd yn hynod o bwysig, os yw’r deunydd yma am oroesi. Wrth wneud hynny mae’n bosib benthyg unrhyw arddull o unman yn y byd ond trwy hyn cedwir y deunydd yma’n fyw a sicrhau y bydd cerddorion Cymraeg y dyfodol yn gallu "Gwneud popeth yn Gymraeg"!
Rhestr traciau :
Defaid William Morgan
Lawr ar Lan y Môr
Elen
Can y medd
Blaenau Ffestiniog
Sospan Fach
Ar lan y môr
Gwnewch Bopeth yn Gymraeg
Suo Gan
Croen y Ddafad Felen
Hen Benillion
Tren bach yr Wyddfa
Llais / Utgorn / Corn ffliwgal – Gwyn Evans
Trombôn – Harry Price
Gitar / Banjo – Andy Mackenzie
Piano / Allweddellau – Aled Evans
Bâs – Paul Roberts)
Drymiau – Brian Filingham
Diolch i : -
Trombôn – Kate Gwilliam
Sacs / Clarinet – Edwin Humphries)
Tiwba – Emyr Rhys