
Casgliad o ganeuon gan y diweddar Katie Wyn Jones wedi eu dethol gan ei theulu.
Un o'r pleaserau mwyaf ym mywyd Katie Wyn oedd canu. Dechreuoadd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddar bu'n cystadlu ar unawdau soprano, canu deuawdau gyda'i chwaer Peggy a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor.
Bu rhaid iddi gymryd egwyl o'r cystadlu am gyfnod a gorffwys ei llais oherwydd cleisio drwg i'r llinynnau. Yn ddiweddar fe ail gydiodd yn ei diddordeb a dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a Glannau Merswy.
£9.99
Rhestr draciau :
1.Clyw Ni, Fwyn Waredwr
2.Dy Garu Di (Fenwick )
3.Craig y Oesoedd (Petra)
4.Drosom Ni
5.Ymgysegriad
6.Gawn ni gwrdd?
7.Mae Robin yn Swil
8.Nefol Dad Mae Eto’n Nosi
9.Pan Wyf yn Teimlo’n Unig Lawer Awr
10.Tawel a Thyner
Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i’r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â salw tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol Eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei derbyn i’r Orsedd. Braint iddi hefyd oedd cael ei gwahodd i offrymu Gweddi’r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.
Canu i roi mwynhad oedd ei nod bob amser, boed hynny mewn Eisteddfodau, cymdeithasau llenyddol neu gartrefi henoed. Ei ffydd roddai iddi’r ysbrydoliaeth i’w galluogi i ganu Emynau gyda theimlad ac arddeliad. Cyhoeddir y CD hon gan y teulu er cof amdani. Bydd unrhyw elw a wneir o’r gwerthiant yn mynd i Dŷ Gobaith, a chyfraniad at ei Heglwys yn Llandwrog lle y canodd am y tro olaf yng ngwasanaeth Carolau Nadolig.
Gobeithio y cewch fwynhad o’r gwrando fel y buasai Katie Wyn wedi ei ddymuno.