Carys Owen

Carys bach

Yn wreiddiol o Bow Street, ger Aberystwyth, fe astudiodd Carys Owen Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Yn dilyn ei gradd fe barhaodd efo’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ble yr enillodd ei M.A. ar y testun ‘Cerddoriaeth draddodiadol Gymreig’. Ers hynny mae wedi chwarae’r delyn yn broffesiynol, wedi gweithio i Gyngor y Celfyddydau fel cynhyrchydd teledu ar y rhaglen ‘Y Sioe Gelf’, erbyn hyn mae’n dysgu. Trwy hyn oll bu’n brysur yn recordio a pherfformio fel aelod o’r grŵp gwerin Cymreig - ‘Ogam’.

 


FaLang translation system by Faboba