cd cor caernarfon 150

Côr Meibion Caernarfon yn Dathlu eu Penblwydd yn 50

Pa well ffordd i gôr meibion ddathlu ei ben blwydd yn 50 oed na chyhoeddi CD i bawb gael rhannu gwledd gerddorol.Pa well ffordd i gôr meibion ddathlu ei ben blwydd yn 50 oed na chyhoeddi CD i bawb gael rhannu gwledd gerddorol.
Ffurfiwyd “Côr Ferodo” yn Ffatri Leinin Brêcs Ferodo ar lannau’r Fenai yn Nhachwedd 1967. Er i’r ffatri gau, ‘does dim brêc ar ganu brwdfrydig y Cofis. Wedi 50 mlynedd ar y brig mae Côr Meibion Caernarfon, fel y’i gelwir bellach, yn dal i ddiddanu cynulleidfaoedd. Dros y blynyddoedd, perfformiwyd ar brif lwyfannau Prydain. Teithiwyd yn helaeth ym Mhrydain, Iwerddon, cyfandir Ewrop a gogledd America. Enillwyd naw gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

£12.99


 

Y cyfarwyddwr cerdd yw Delyth Humphreys B.Mus, darlithydd cerddoriaeth yn Adran Addysg Prifysgol Bangor. Y cyfeilydd yw Mona Meirion Richards BA, LRAM – cyn bennaeth Cerdd Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon. Noddwr Anrhydeddus Côr Meibion Caernarfon yw’r canwr opera byd enwog Syr Bryn Terfel. Hyderwn y cewch chi, a fo, eich plesio!

cd cor caernarfon 300

 

 

 

1. Prysgol 
2. Anfonaf Angel
3. Dyrchefir Fi
4. Ave Verum Corpus
5. Jamaica Farewell
6. Y Darlun
7. Cantilena
8. Bring Him Home
9. O Gymru
10. O Ddwyfol Nos!
11. Do you hear the people sing?
12. Hallelujah
13. Anthem

  Dyddiad rhyddhau: Gorffennaf 14ydd, 2017

http://www.cormeibioncaernarfon.org/

 

FaLang translation system by Faboba