Daw ffrindiau Emyr a Siân ynghyd i gyfrannu i’w hail gasgliad gwych o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg.Gyda Bryn Terfel, David King, Annette Bryn Parri, Catrin Alaw, Elin Llwyd, Steve Pablo ac Owain Gethin Davies.
Mae’n amlwg bod byd y brawd a’r chwaer yn llawn o gerddoriaeth gan bod yna gyfoeth o gerddorion adnabyddus iawn ymhlith eu ffrindiau.
Eglurodd Emyr gymaint oedd arwyddocâd cyfraniad Bryn Terfel i ‘Agnus Dei’ gan Robat Arwyn. “Mae Siân wedi tyfu i fyny efo fo yn y byd canu, pan oedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau, ond roedd o’n brofiad mawr i mi.”
9.99
Hefyd yn chwarae’r corn ar y gân honno mae’r cerddor David King, sy’n adnabyddus iawn fel arweinydd a chwaraewr. “Mewn cyngerdd ychydig o flynyddoedd yn ôl, buom ni yn rhannu llwyfan efo'r enwog Yorkshire Building Society Brass Band dan arweiniad David King. Daeth draw i ganmol ein perfformiad ac fe dyfodd y cysylltiad o hynny.”
Wrth gwrs, rhywbeth anodd ydy dethol casgliad o ddeuawdau i frawd a chwaer a dyna reswm arall am ddewis themâu fel ‘Perthyn’ a ‘Ffrindiau’ ar gyfer ei recordiau. Teitlau sydd hefyd yn disgrifio natur ac agosatrwydd y ddau. Mae Emyr yn adnabyddus am chwarae rhan Meical yn y gyfres deledu Rownd a Rownd, tra bod Siân yn gantores glasurol broffesiynol ac yn dysgu o amgylch Ysgolion.
Mae’r caneuon yn cynnwys dwy gan Ryan Davies – ‘Yn y Bore’ a ‘Nadolig? Pwy a yr?’. “Mae caneuon Ryan yn glasuron, ac yn addas iawn ar ein cyfer. “Does neb wedi eu recordio nhw ers blynyddoedd chwaith.”
Y cantorion eraill sy’n cyfrannu i’r CD ydy Catrin Alaw, sy’n ferch i Siân, ac Elin Llwyd sy’n gariad i Emyr. Felly mae’n amlwg bod dim angen iddynt edrych yn bell iawn er mwyn creu cywaith cerddorol.
“Dyna sut oeddan ni’n gallu gwneud y CD – am bod ein ffrindiau wedi’n helpu ni allan fel hyn, ac mi faswn i’n hoffi diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cymryd rhan.”
1. Yn Y Bore gyda / with Steve Pablo (gitâr / guitar )
Ryan Davies, trefn. / arr Emyr Rhys © Ryan Davies
2. Agnus Dei (allan o Er hwylio’r Haul) gyda / with Bryn Terfel + David King (cornet)
Robat Arwyn © Curiad
3. Hon yw y Foment (This is the Moment, allan o/out of Jekyll & Hyde)
Frank Wildhorn, Leslie Bricusse; cyf. / trans. John Stoddart
© Stage and Screen Music
4. Emyn Priodas gyda / with Owain Gethin Davies (telyn / harp)
Delyth Haf Rees,Eleri Ann Richards © Delyth Haf Rees + Eleri Ann Richards
5. Nadolig? Pwy a wyr?
Ryan Davies, trefn. / arr Benny Litchfield © Ryan Davies
6. The Rose (Calon Lân) gyda / with Catrin Alaw
Amanda McBroom; Daniel James © W B Music Corp.
7. Y Byd yn Un (World in Union) gyda / with Owain Gethin Davies (telyn / harp)
G Holst, Charlie Skarbek, trefn. / arr. Owain Gethin Davies; cyf. / trans. Sioned James
© Bucks Music Group Ltd
8. Ave Maria
J S Bach, Gounod, trefn. / arr Emyr Rhys © Aran
9. Hallelujah gyda / with Elin Llwyd
Leonard Cohen © Sony/ATV Music Publishing
10. Angel
Sarah Maclachlan © Sony/ATV Music Publishing
11. She’s Always a Woman gyda / with Annette Bryn Parri (piano)
Billy Joel © EMI Music Publishing Ltd
12. Somewhere Over the Rainbow gyda / with Annette Bryn Parri (piano)
Harold Arlen, E Y Harburg © EMI United Partnerships
13. World in Union gyda / with Owain Gethin Davies (telyn / harp)
G Holst, Charlie Skarbek, © Bucks Music Group Ltd