Emyr a Sian bach

Brawd a chwaer, y ddau ohonynt yn gantorion adnabyddus - yma am y tro cyntaf efo’i gilydd.

Mae gan Siân gefndir clasurol ac mae’i doniau wedi mynd â hi o lwyfannau eisteddfodau lleol i’r byd canu opera proffesiynol. Adnabyddir Emyr am fath arall o opera sef ei ran fel ‘Meical’ yn yr opera sebon ‘Rownd a Rownd’. Clywir hefyd mewn sioeau cerdd a drwy berfformiadau bywiog efo’i band – ‘Emyr Gibson a’r Band’.

 

 

 £9.99

 


Yma maent yn creu dehongliadau newydd, cyffrous o ganeuon poblogaidd; eu dwy steil gwahanol yn asio yn y modd mwyaf naturiol. Profir unwaith eto, ymysg cantorion, pa mor hynod lwyddiannus ydy cywaith teuluol.

 

Rhestr draciau :
1. Cei lawenhau (Bunessan)

2. Dyrchefir Fi (You Raise Me Up)

3. Catraeth

4. Pan glywaf gân y clychau

5. Can yn Ofer

6. Ym Mhontypridd mae ‘nghariad

7. Carol Nadolig

8. Pokarekare ana (Calon Lan)

9. Y Weddi (The Prayer)

10. Ave Maria

11. Salm 23

FaLang translation system by Faboba