Emyr a Sian Wyn Gibson
- Manylion
- Categori: Emyr a Sian Wyn Gibson
Daw ffrindiau Emyr a Siân ynghyd i gyfrannu i’w hail gasgliad gwych o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg.Gyda Bryn Terfel, David King, Annette Bryn Parri, Catrin Alaw, Elin Llwyd, Steve Pablo ac Owain Gethin Davies.
Mae’n amlwg bod byd y brawd a’r chwaer yn llawn o gerddoriaeth gan bod yna gyfoeth o gerddorion adnabyddus iawn ymhlith eu ffrindiau.
Eglurodd Emyr gymaint oedd arwyddocâd cyfraniad Bryn Terfel i ‘Agnus Dei’ gan Robat Arwyn. “Mae Siân wedi tyfu i fyny efo fo yn y byd canu, pan oedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau, ond roedd o’n brofiad mawr i mi.”
- Manylion
- Categori: Emyr a Sian Wyn Gibson
Brawd a chwaer, y ddau ohonynt yn gantorion adnabyddus - yma am y tro cyntaf efo’i gilydd.
Mae gan Siân gefndir clasurol ac mae’i doniau wedi mynd â hi o lwyfannau eisteddfodau lleol i’r byd canu opera proffesiynol. Adnabyddir Emyr am fath arall o opera sef ei ran fel ‘Meical’ yn yr opera sebon ‘Rownd a Rownd’. Clywir hefyd mewn sioeau cerdd a drwy berfformiadau bywiog efo’i band – ‘Emyr Gibson a’r Band’.