carolauthumb

Casgliad newydd o garolau Cymreig i gyfeiliant telyn ac offerynnau pres.

Ystyrir y garol fel yr enghraifft gynharaf o'r gân Gymreig ac fe erys yn dra phoblogaidd hyd heddiw. Mae'r casgliad hwn yn cwmpasu’r cyfoeth hwnnw o fewn ein traddodiad. Un o’r enghreifftiau cynharaf yw’r garol’ Myn Mair’ a gyfansoddwyd fe gredir yn y Canol Oesoedd; yn ogystal â’r garol Blygain sy’n rhan unigryw o’r traddodiad Eglwysig Cymreig. Ymysg y casgliad fe geir rhai carolau clasurol o’r cyfnod Fictorianaidd yn ogystal â rhai gan gyfansoddwyr cyfoes amlwg gan gynnwys ‘Doethion a Bugeiliaid’ gan William Mathias. Mae amryw o’r trefniannau hyn gydag offerynnau pres wedi eu paratoi yn arbennig ar gyfer y recordiad hwn ac fe’u perfformir gan ddau o enwau amlycaf Cymru.

 

   £9.99


Carolau

Côr Seiriol

Ers eu sefydlu yn 1991, mae Côr Seiriol wedi bod yn dra llwyddiannus o safbwynt cystadleuol a chreadigol. Yn yr Wŷl Gerdd Dant a chynhaliwyd yn y Rhyl yn 2008, fe ddaethant unwaith eto yn gyntaf; am y degfed tro yn ei hanes. Dan arweinyddiaeth Gwennant Pyrs, mae eu sain unigryw a chyfoethog wedi ail ddiffinio cerdd dant ac wedi symbylu sawl cyfansoddwr blaenllaw i gyfansoddi iddynt. Mae’r aelodau’n bennaf o ardal Bangor ac mae ganddynt gysylltiad agos â Seindorf Biwmares, sydd ar hyn o bryd yn mwynhau’r teitl Pencampwyr Prydain yng nghategori cyntaf y bandiau pres. Gellir olrhain y llwyddiant hwn i’r band ieuencid sydd wedi ei hen sefydlu ac wedi meithrin talentau disglair ymhlith ieuenctid yr ardal.Yn y cyfamser, rhydd y Cyfarwyddwr Cerdd Gwyn Evans bwyslais ar gyfrannu at brosiectau lleol sy’n ymwneud â thraddodiad a gwreiddiau’r band.

1. Ceidwad y byd (Draw yn nhawelwch Bethlem dref) 3.26
alaw Ffrengig, trefn./arr. Idris Rees; John Hughes
© Aureus

2. Hwiangerdd Mair (Suai’r gwynt) 3.27
Haydn Morris, trefn./arr. Gwennant Pyrs; Nantlais
© Snell & Sons

3. Mae’r nos yn fwyn (Vilda) 3.50
Caradog Roberts, trefn./arr. Gwyn M Evans; W Rhys Nicholas
© W Rhys Nicholas
unawdydd gwadd / guest soloist - Casi Wyn

4. Y dirion wawr a dorrodd 5.00
(See the Building), tradd./trad., trefn./arr. Gwennant Pyrs; H Hughes
© Gwennant Pyrs
utgorn / trumpet - Bari Gwilliam

5. Doethion a bugeiliaid 2.37
William Mathias, trefn./arr. Emyr Rhys; Gwyn Thomas
© Copyright Control

6. Carol y Gwrthod 5.40
Gwennant Pyrs; John Gruffydd Jones
© Curiad
unawdydd / soloist – Alwen Derbyshirecovercarolau

7. Ar gyfer heddiw’r bore 5.56
tradd./trad. Haldon Evans; Eos Iâl (1794-1862)
© Aran

8. Adeste Fideles (O Deuwch Ffyddloniaid) 3.18
John F Wade. trefn./arr. Derek Broadbent; Anon, cyf/trs. anon
© Wright & Round

9. Myn Mair
tradd./trad. Brian Hughes
© Curiad
unawdydd / soloist Siân Wyn Land

10. Ar fore dydd Nadolig 2.28
tradd./trad., trefn./arr. Emyr Rhys
© Aran

11. Sisialau’r awel fwyn 2.24
(Heidelberg Press), trefn./arr. Gwennant Pyrs; cyf. /trans. John Hughes
© Aureus

12. Carol y Blwch 2.34
tradd./trad., trefn./arr. Emyr Rhys
© Aran

 

Côr Seiriol
Cyfarwyddwr Cerdd – Gwennant Pyrs
a
Band Beaumaris
Cyfarwyddwr Cerdd – Gwyn Meredydd Evans 

celf y clawr gan Catrin Williams www.catrinwilliams.co.uk

Grwp pres / Brass group, # 5.7.10.12
utgyrn / trumpets : Chris Williams # 7.10.12 / Bari Gwilliam # 5
Gwyn Meredydd Evans
Aled Wyn Evans
Corn Ffrengig / French horn – Jessica Evans
trombôn / trombone – Kate Gwilliam
Owain Arwel Davies
tiwba / tuba Gavin Saynor # 7.10.12 / Bethan Lowri Evans # 5
offerynnau taro / percussion – Dewi Ellis Jones

 
telyn / harp – Mona Meirion
Recordiwyd yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis
trwy ganiatad caredig y Parch. Robert Townsend gyda ddiolch i Ernest Owen a Dick Jones
 

Erbyn hyn byddwn yn meddwl am garolau fel emynau sy'n dathlu'r Nadolig. Ond mae’r gair 'carolau' yn un a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol, a phryd hynny gallai olygu sawl math o gân, ac nid rhai llawen na thymhorol o anghenraid.

Naws seciwlar neu baganaidd oedd i’r rhan fwyaf o Garolau Nadolig yr Oesoedd Canol. O ganlyniad roeddent yn amhoblogaidd ymhlith yr awdurdodau eglwysig, ac ar fwy nag un achlysur ( mor gynnar â dechrau'r seithfed ganrif ac mor ddiweddar â'r unfed ganrif ar bymtheg ) ceisiodd cynghorau'r Eglwys Gatholig eu gwahardd.

Ceir y cyfeiriad Cymraeg cynharaf at garolau mewn llawysgrif crefyddol a gopïwyd yn Llanddewibrefi yn 1346. Yno, mae'n debyg yr ystyrid carolau yn fath o ddawns-ganeuon, gan bod y geiriau 'caroli' (canu carolau) a 'hopyaw' ('dawnsio') yn ymddangos gyda’i gilydd dwywaith. Yn ei ‘daith trwy Gymru’ a ysgrifennwyd tua 1187/8 mae Gerallt Gymro yn disgrifio math o ddawns â chytgan lleisiol, a symudai o amgylch yr eglwys a’r llan ac a berfformid gan w?r a merched ifainc ar ddydd g?yl y Santes Eluned yn ardal Aberhonddu. Mae’r gair ‘carolau’ yn digwydd droeon yng ngwaith Dafydd ap Gwilym (1330-50).

Y cyfnod rhwng hynny a chanol yr unfed ganrif ar bymtheg a ystyrir gan rai yn ‘oes aur’ y garol. Roedd llawer o’r engreifftiau mwyaf defosiynol yn dilyn y patrwm ailadroddus o bennill a byrdwn, ac yn canmol y Forwyn Fair, y baban Iesu a’r Seintiau. Mae’n bosibl bod dwy enghraifft a gynhwysir yma wedi goroesi o’r gyfnod hwnnw yn Sir Gâr, sef ‘Myn Mair’ ac ‘Ar fore dydd Nadolig’, er bod carolau diweddarach hefyd wedi ceisio dynwared eu harddull.

Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr a dyfodiad Piwritaniaeth, anogid pawb i roi’r gorau i dathlu’r Nadolig mewn llawenydd, ac o hynny ymlaen prin oedd tystiolaeth o’r traddodiad o ganu carolau y tu allan i rai cadarnleooedd Catholig. Mae’n bosibl mai wrth ymateb i’r amgylchiadau hyn yr ymddangosodd traddodiad unigryw Gymreig y Gwasanaeth Plygain. Er bod gwreiddiau’r Plygain hefyd yn ymestyn yn ôl i’r Oesoedd Canol, datblygodd i fod yn fersiwn fer o’r Weddi Foreol, gyda chyfres faith o garolau i’w dilyn, llawer ohonymt wedi eu cyfansoddi yn lleol. Mae’r perfformiadau’n awgrymu bod perthynas agos rhyngddynt a cherddoriaeth werin, wrth i grwpiau bach o gantorion o blith y gynulleidfa gynnig carolau sy’n aml yn defnyddio alawon gwern poblogaidd. Alaw boblogaidd o’r unfed ganrif ar bymtheg a ddefnyddir ar gyfer ‘Y dirion wawr a dorrodd’. Yn sgil lledaeniad y capeli Anghydffurfiol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn hytrach na gadael i’r traddodiad ddiflannu, fel y gwnaeth cynifer o arferion yr Eglwys yn Nghymru, mabwysiadwyd y Plygain gan yr Anghydffurfwyr, er iddynt addasu natur y gwasanaeth i gyd-fynd â’u cyfarfodydd hwyrol a gynhelid yn ystod yr wythnos. Enghraifft dda o Garol Plygain a ddefnyddir o hyd mewn eglwysi a chapeli yw ‘Ar gyfer heddiw’r bore’.

Yn y cyfamser, roedd nifer o gewri amlycaf yr oes Fictoraidd yn annog y boblogaeth i ailafael mewn dathlu’r Nadolig. Un ohonynt oedd Charles Dickens (a ysgrifennod ‘A Christmas Carol’ ym 1843) ac o dan ei ddylanwad ef ac eraill daeth y Nadolig unwaith eto yn achlysur dathliadau poblogaidd, yn ddiwrnod ar gyfer y teulu, a gwledda. Yn nghanol bwrlwm yr Oes Ddiwydiannol newydd y daeth nifer o’r carolau yn boblogaidd ar lefel ryngwladol. Cyfansoddwyd yr alaw i’r emyn Lladin ‘Adeste Fideles’ gan John Francis Wade ym 1743, ond dichon fod y geiriau wedi eu hysgrifennu mor gynnar â’r drydydd ganrif ar ddeg. Cyfieithwyd hwy bellach i bob un o brif ieithoedd Ewrop. Cyfrannodd Cymru hithau i’r corff o garolau a grëwyd yn y cyfnod hwn. Hen alaw werin Gymreig a ddefnyddiwyd ar gyfer ‘Deck the halls’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1760, ac a ddefnyddiwyd gan Mozart mewn deuawd i’r piano a’r fiolin. Fodd bynnag, nid ymddangosodd fel carol tan 1863, pan osodwyd geiriau iddi gan Ceiriog a’i chyhoeddi fel ‘Nos Calan’. Rhywdro ar ôl hynny y troswyd hi i’r Saesneg, a chredir mai yn yr Unol Daleithiau y gwnaed hynny.

Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth bandiau pres yn boblogaidd a datblygodd traddodiad o ganu carolau i gyfeiliant offerynnau pres, yn benodol dan ddylanwad Byddin yr Iachawdwriaeth. Cyfunwyd hynny â thraddodiad gwerin arall, wrth i gymdogion fynd o amgylch o ddrws i ddrws i ganu carolau. Mae hyn yn adleisio hen arferion y Calennig a Gwasaela, a fyddai hefyd yn digwydd o amgylch dechrau’r flwyddyn.

Mae ‘Carol y Blwch’ yn cyfeirio at arferion y bonedd o rannu bwyd a rhoddion eraill i’w gweision ac i dlodion y plwyf ar ddydd G?yl San Steffan, ar ôl y Nadolig. Yn ôl traddodiad, ar y diwrnod hwnnw yr agorid y blychau cardod yn yr eglwys, er mwyn rhannu eu cynnwys rhwng y tlodion.

Yn Ystod yr ugeinfed ganrif, roedd cyfansoddwyr clasurol ledled Ewrop yn ymddiddori o’r newydd mewn deunydd gwerin, a phrin bod unrhyw gyfansoddwr Cymreig nad oedd wedi cyfansoddi neu greu trefniant newydd o garol. Mae i’r carolau hyn arwyddocâd diwylliannol arbennig iawn, gan fod rhai ohonynt ymhlith yr hynaf o ganeuon Cymru, ond eto’n cael eu canu a’u mwynhau yn rhan o draddodiad byw, sy’n parahau i ddatblygu.

Emyr Rhys

gyda diolch yn arbennig i Dr Sally Harper am ei herthygl ‘Early Welsh Carol’ a gyhoeddwyd yn ‘The Canterbury Dictionary of Hymnology’, gol. J R Watson (Llundain, Canterbury Press)

FaLang translation system by Faboba