Argraffu
Categori: Ynyr Llwyd
Dyddiad Rhyddhau - Hydref 6ed 2008
 
Canwr ifanc yn Adennill lle’r Piano
 

Ar y 6ed o Hydref bydd Recordiau Aran yn rhyddhau yr EP gyntaf gan y Canwr a’r Cyfansoddwr - Ynyr Llwyd. Teitl y CD ydy ‘Cilfach’ ac mae’r chwech o ganeuon sydd arni yn dangos ei fedr i gyfansoddi wrth y piano mewn arddull wreiddiol a chyfoes.
“Mae cymaint o fandiau ifanc sydd yn defnyddio gitâr, bas, a drymiau,” meddai Ynyr, ”ond dim cymaint o bianyddion cyfoes sydd yn cyfansoddi caneuon gyda band. Mewn ffordd, dwi’n ceisio codi ymwybyddiaeth yr offeryn, a’i ymestyn tu hwnt i arddulliau clasurol yn unig, sef beth y cysylltir y piano ag ef gan amlaf.”



 6.99


Cilfach

 

 

Ond dychwelyd at y piano mae Ynyr oherwydd fe’i hadnabyddir hyd yn hyn fel gitarydd yn y gr?p ‘Labrinth’. “Rwyf wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oeddwn i’n ddim o beth, ar biano a gitâr, ond y piano yw’r offeryn agosaf at fy nghalon”. Roedd ei frawd Rhys yn gyd-aelod o’r band a’i fam yw’r gantores werin a cherdd dant adnabyddus, Leah Owen. ”Rydym yn sicr yn deulu cerddorol ac mae hynny wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd”.

Y mae Ynyr yn cychwyn yn fuan ar ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n astudio Cerddoriaeth. Fel rhan o’i astudiaethau bu’n cyfansoddi caneuon i’r gr?p lleisiol ifanc – Enfys. Clywir dwy o aelodau’r grŵp hwnnw ar yr EP, sef Jade Louise Davies a Mared Thomas. Cynhyrchwyd yr EP gan Wyn Pearson sy’n gitarydd sesiwn proffesiynol, yn gyn-enillydd ‘Tlws y Cerddor’ ac yn ffrind personol i’r teulu. Yr offerynwyr eraill yw Matty Roberts ac Emyr Rhys ar ddrymiau a bâs.

Gobaith Ynyr, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau, yw llunio gyrfa i’ddo’i hun yn gwneud gwaith tebyg i hyn. “Rwy’n teimlo fod lle gwag a chyfle i’r math hwn o gerddoriaeth yn y sîn roc Gymraeg ar hyn o bryd,” meddai.
A pha gerddorion sydd wedi dylanwadau arno fwyaf? “Ar ôl i mi ddechrau ymddiddori mewn canu a chyfeilio i mi fy hun, rwyf wedi dod i hoffi artistiaid fel Huw Chiswell ac Elton John”.

Ynyr Llwyd – Cilfach

1. Calon ar glo 3.29

2. Rositta 3.47

3. Daw y dydd· 3.52

4. Tu ôl dy wen 3.46

5. Fy nefoedd i 4.35

6. Ddim yn ddrwg i gyd 4.11

Ynyr Llwyd : Llais / Piano
Wyn Pearson : Gitar / Rhaglenni
Jade Louise Davies a Mared Thomas : Lleisiau cefndir
Matty Roberts : Drymiau
Emyr Rhys : Bas
Cynhyrchwyd gan Wyn Pearson yn Stiwdio Bryn Môr
Mastro gan Emyr Rhys yn Stiwdio Aran
Clawr gan Charli Britton

http://www.myspace.com/ynyrllwyd
http://www.facebook.com/pages/Ynyr-Llwyd/28150684373

FaLang translation system by Faboba