|
Ffrindiau’n cyfrannu ar CD
Dec 1 2010 by Tudur H. Jones, Daily Post
MAE brawd a chwaer cerddorol ar fin rhyddhau eu hail gryno-ddisg mewn tair blynedd. Perthyn oedd enw record gyntaf Emyr a Siân Wyn Gibson, sy’n deitl addas achos maen nhw’n perthyn wrth gwrs. I gryfhau’r syniad o berthyn ymhellach, roedd merch Siân yn canu ar y CD honno hefyd.
Ffrindiau ydy teitl eu hail CD ar label Recordiau Aran, sydd hefyd yn enw addas, achos yn ffodus iawn mae’r ddau o Ddeiniolen yn ffrindiau da. Ac mae Catrin Alaw, merch Siân, yn canu ar hon hefyd.
Ond mae’r teitl yn fwy addas yn yr achos yma, gan fod nifer o ffrindiau’r ddau yn perfformio ar y CD – yn cynnwys y bariton byd-enwog, Bryn Terfel, sy’n adnabod Siân ers dyddiau plentyndod pan oedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau.
Eglurodd Emyr mai caneuon hawdd ar y glust oedd ar y casgliad.
“Mae’n anodd i frawd a chwaer ganu caneuon serch efo’i gilydd, felly mi ydan ni wedi bod yn chwilio am ganeuon poblogaidd, hawdd ar y glust, ac yn arbennig rai oedd yn addas fel deuawdau,” meddai.
“Mi gawson ni ymateb da i’r CD gyntaf, ac o ran caneuon dwi’n meddwl bod hon yn well eto. Mae ’na lawer o ganeuon poblogaidd iawn arni.”
Mae’r caneuon yn cynnwys dwy o glasuron Ryan Davies – ‘Yn y Bore’ a ‘Nadolig? Pwy a yr?’
“Mae caneuon Ryan yn glasuron, ac maen nhw’n addas iawn ar ein cyfer ni. ’Does neb wedi eu recordio nhw ers blynyddoedd chwaith.”
Ond mae’n debyg mai’r profiad mwyaf i Emyr oedd canu efo Bryn Terfel ar un o’r caneuon.
“Mae Siân wedi tyfu i fyny efo fo yn y byd canu, ond roedd o’n brofiad mawr i mi. Agnus Dei gan Robat Arwyn, sy’n wreiddiol o Benygroes, ydy enw’r gân allan o’r sioe Er Hwylio’r Haul.”
Hefyd yn chwarae’r corn ar y gân honno mae’r cerddor David King, sy’n adnabyddus iawn fel arweinydd a chwaraewr yng nghylchoedd bandiau pres Prydain.
Dywedodd Emyr iddynt ei gyfarfod mewn cyngerdd efo'r enwog Yorkshire Building Society Brass Band dan arweiniad David King, a’u bod wedi cadw mewn cysylltiad wedyn.
“Ymhlith y ffrindiau eraill sy’n ymddangos ar y CD efo ni, mae fy nghariad, Elin Llwyd yn canu ar Hallelujah (Leonard Cohen) efo ni; Annette Bryn Parri yn chwarae’r piano ar un gân; Steve Pablo yn chwarae’r gitâr ar un, ac Owain Gethin Davies yn chwarae’r delyn ar ddwy ohonyn nhw.
“Dyna sut oeddan ni’n gallu gwneud y CD – am bod ein ffrindiau wedi’n helpu ni allan fel hyn, ac mi faswn i’n hoffi diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cymryd rhan.”
Mae Emyr, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, yn adnabyddus am chwarae rhan Meical yn y gyfres deledu Rownd a Rownd, tra bod Siân, sy’n byw yn Llanwnda, yn gantores glasurol broffesiynol, sydd hefyd yn mynd o amgylch ysgolion Sir Conwy yn dysgu.
Mae disgwyl i Ffrindiau fod yn y siopau o Ragfyr 10. Gellir archebu copiau o flaen llaw ar www.traciaucymraeg.com neu trwy ffonio 01286 831346. |