Mae Richard (Mozz) Morris yn gynhyrchydd enwog a fu trwy gydol yr wythdegau yn gweithio gyda nifer o grwpiau Cymreig nodedig, megis Maffia Mr Huws, Y Cyrff, Ail Symudiad, Y Ficar, Y Diawled, Eryr Wen, Eliffant, Rocyn a Crys. Defnyddir ei sgiliau rhyfeddol ar y ddwy gân yma sy’n gofiadwy iawn ac yn cydio yn syth o’r gwrandawiad cyntaf.
Ysgrifennwyd y caneuon yma gan Gaynor a Mozz, gwr a gwraig sydd bellach yn byw yn Rhydaman. Mae nifer o’u caneuon wedi cael ei ddefnyddio gan gwmnïau cyhoeddi yn Yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain. Ganddynt hefyd profiad helaeth o berfformio fel deuawd ac o fewn grw^p ehangach.
Anthem yw "Dathlu Heddwch" lle glywir llais melys Gaynor wedi’i osod o gwmpas cynhyrchiad medrus a gitâr gogoneddus gan Mozz. Y mae côr o leisiau plant yn ymuno gyda Gaynor ar "Y Ni Yw'r Dyfodol" i fynegi eu gobeithion ar gyfer byd lle mae pawb yn "estyn llaw i fod fel un”.
Dyma’r record cyntaf gan Gaynor a Mozz yn y Gymraeg ac i Mozz mae’n cynrychioli dychweliad hir disgwyliedig i faes cerddorol lle wnaeth ffrindiau diri, ac sy’n llawn o atgofion melys.
Richard (Mozz) Morris is a legendary producer, who throughout the ‘80s worked with many iconic Welsh bands such as Maffia Mr Huws, Y Cyrff, Ail Symudiad, Y Ficar, Y Diawled, Eryr Wen, Eliffant, Rocyn and Crys. His production skills are brought to the fore in these two catchy songs. You’ll be singing these to yourself all day after having heard them.
As a husband and wife songwriting team based in Ammanford, Gaynor and Mozz have had many of their compositions picked up by a host of American and UK publishing companies. They also have a wealth of experience playing live, both as a duo and with a larger group.
“Dathlu Heddwch” (Celebrating Peace), the lead track is an ethereal anthem with Gaynor’s sweet vocals set to Richard’s skilful production and exquisite guitar playing. “Y Ni Yw’r Dyfodol” (We are the future), feature’s a children’s chorus as they sing of their hopes for a world where people “estyn llaw i fod fel un” (extend a hand to be as one).
This is Gaynor and Mozz’s first release in Welsh and for Mozz represents a long overdue return to a musical scene in which he made countless friends and has many fond memories.