Home Recordiau
Facebook Image

Sylwadau

  • Mae'r CD yma o'r Cor y Traeth yr un orau maen't wedi ei recordio yn fy meddwl i. Mi oedd y rhai eraill yn wych, ond mae hon yn arbennig iawn, dwi yn e...
    17.12.10
    By H. Renshaw
Dathlu Deugain PDF Argraffu Ebost

thumb cor y traeth

Artist: Cor Meibion y Traeth
Rhif catalog: ARAN518
Dyddiad rhyddhau: Rhagfyr 5ed 2010


Mae wedi bod yn flwyddyn o ddathlu i un o brif Corau Meibion y Gogledd. Mae’n deugain mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Y Traeth yn ardal Benllech,Ynys Môn. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal i nodi’r achlysur, ac ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd llyfr yn olrhain hanes y Côr, ond fel uchafbwynt i’r cyfan mae’r Côr wedi rhyddhau CD newydd o’r enw ‘Dathlu Deugain’.

Fe ffurfiwyd y Côr er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Môn yn 1969. Dim ond 14 o leisiau oedd yno ar y dechrau o dan arweiniad Mrs Magdalene Jones, athrawes leol a gwraig i’r bardd Dewi Jones. Ers hynny mae yna naw o arweinyddion wedi bod gan y Côr a’r arweinyddes presennol ydy Annette Bryn

 
Ffrindiau / Friends PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Daw ffrindiau Emyr a Siân ynghyd i gyfrannu i’w hail gasgliad gwych o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg.thumb ffrindiauGyda  Bryn Terfel, David King, Annette Bryn Parri, Catrin Alaw,  Elin Llwyd, Steve Pablo ac Owain Gethin Davies.

Mae’n amlwg bod byd y brawd a’r chwaer yn llawn o gerddoriaeth gan bod yna gyfoeth o gerddorion adnabyddus iawn ymhlith eu ffrindiau.

Eglurodd Emyr gymaint oedd arwyddocâd cyfraniad Bryn Terfel i ‘Agnus Dei’ gan Robat Arwyn. “Mae Siân wedi tyfu i fyny efo fo yn y byd canu, pan oedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau, ond roedd o’n brofiad mawr i mi.”

 
Myfyrdod

Cerddoriaeth addas ar gyfer gweithgareddau megis iachau, myfyrdod, ac ymlacio gan y pianydd a’r cyfansoddwr amryddawn.

1 Myfyrdod / Meditation
2 Machlud / Sunset
3 Meddyliau / Thoughts

4 Gorwel / Horizon
5 Sirioldeb / Serenity

6 Gobaith / Hope
7 Hiraeth / Longing

8 Tangnefedd / Peace
9 Dedwyddwch / Contentment
10 Gorfoledd / Joy

 
Dathlu Heddwch PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Mae Richard (Mozz) Morris yn gynhyrchydd enwog a fu trwy gydol yr wythdegau yn gweithio gyda nifer o grwpiau Cymreig nodedig, megis Maffia Mr Huws, Y Cyrff, Ail Symudiad, Y Ficar, Y Diawled, Eryr Wen, Eliffant, Rocyn a Crys. Defnyddir ei sgiliau rhyfeddol ar y ddwy gân yma sy’n gofiadwy iawn ac yn cydio yn syth o’r gwrandawiad cyntaf.

Ysgrifennwyd y caneuon yma gan Gaynor a Mozz, gwr a gwraig sydd bellach yn byw yn Rhydaman. Mae nifer o’u caneuon wedi cael ei ddefnyddio gan gwmnïau cyhoeddi yn Yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain. Ganddynt hefyd profiad helaeth o berfformio fel deuawd ac o fewn grw^p ehangach.

Anthem yw "Dathlu Heddwch" lle glywir llais melys Gaynor wedi’i osod o gwmpas cynhyrchiad medrus a gitâr gogoneddus gan Mozz. Y mae côr o leisiau plant yn ymuno gyda Gaynor ar "Y Ni Yw'r Dyfodol" i fynegi eu gobeithion ar gyfer byd lle mae pawb yn "estyn llaw i fod fel un”.

 
Ribidires PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Croeso fawr i chi ar fwrdd arch Now a Nia!
Dyma 16 o ganeuon bach bachog yn disgrifio’r anifeiliaid difyr sydd yno.

Hefyd - Traciau cefndir heb llais!

Welcome aboard the ark with Now and Nia

Here are 16 lively songs that describe the fascinating animals that live there.

Also - backing tracks without voices !

 
O gam i gam PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

cerddoriaeth werin draddodiadol mewn trefniadau cyfoes trawiadol.

Sefydlwyd ym 1995 er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth 'Cythrel Canu' yng ngwyl y Cnapan lle roedd y grwp yn llwyddiannus. Yna cynrychiolwyd Cymru gan OGAM yn yr Wyl Ban Geltaidd yn Tralee, Iwerddon lle y bu hefyd yn llwyddiannus.

Mae uchafbwyntiau eraill wedi cynnwys taith o Lydaw yn 1997 a Gwyl Ryngwladol Geltaidd Montreal ym 2001.

Founded in 1995 to compete in the Cnapan festivals 'Cythrel Canu' competition in which the group was successful. Ogam subsequently represented Wales at the Pan Celtic festival in Trallee, Ireland where it was also successful. Subsequent highlights have included a tour of Brittany in 1997 and the Montreal International Celtic Festival 2001.

 
Rhwng gwyn a du PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

clawr rhwng gwyn a du1. Twyllo dy hun
2. Un gusan
 
3. O ddrwg i waeth 
4. Lle mae hi nawr? 
5. Y Pysgotwr 
6. Rhwng gwyn a du
7. Aros am wyrth

 


Rhwng

Dyddiad rhyddhau / Release date - 01/12/09

Record sy'n dathlu bywyd yn ei holl ogoniant

‘Nid yw popeth yn ddu a gwyn’, yn ôl yr hen ddywediad.  Mae 'na lwyd o hyd yn y canol sy'n cynrychioli'r cymlethdodau a'r rhyfeddodau sy'n gwneud ein byd yn lle mor ddiddorol i fyw ynddo.  Dyma yw'r neges

 
Ffrindiau'r Wyddor PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

ffrindiau'r wyddor clawr

 30 o ganeuon i hyrwyddo llythrennedd trwy’r cyfnod sylfaen (3 i 7 oed)
 gyda Dewi Pws, Elin Llwyd, Emyr Gibson a Siân James
 traciau cefndir heb lais
 CD aml gyfrwng – copi o eiriau’r caneuon a’r gerddoriaeth ar gael trwy osod y CD mewn cyfrifiadur


30 songs based on the letters of the Welsh alphabet, promoting literacy in the foundation stage - ages 3 to 7 years



 
Noa a'r Mab Afradlon PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

• Dwy stori gyda deuddeg o ganeuon, y cyfan yn ddwy ieithog
• CD aml gyfrwng - rhowch yn y cyfrifiadur ar gyfer sgript, geiriau’r caneuon, a cherddoriaeth

• traciau cefndir heb lais
• Adroddir y straeon gan yr actores Leisa Mererid

• Two stories and twelve songs, in both English and Welsh
• Multimedia CD – CD-ROM section contains copies of the script, words and music
• backing tracks without vocals
• Stories read by a children’s tv presenter Leisa Mererid

 
Dros y dwr PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Criw o saith o bobl ifanc byrlymus o Ddyffryn Clwyd ydy ‘Enfys’ sydd yn canu gyda’i gilydd bellach ers bron i ddwy flynedd. Maent i gyd yn ddisgyblion i’r gantores Leah Owen ac yn cael gwersi lleisiol ganddi ers blynyddoedd. Fel arbrawf, daeth Leah â’r saith at ei gilydd i gynnal cyngerdd Nadolig yn 2007, ac yn wir roedd yr ymateb iddynt mor wresog fe benderfynwyd cario ’mlaen.
Yn dilyn hynny, daeth Ynyr Llwyd, mab Leah, i gydweithio ag Enfys. Cyfansoddodd sawl cân ar eu cyfer, ac roedd hi’n amlwg fod yr arddull newydd yn gweddu i’r gr w p. Erbyn hyn, mae Ynyr yn rhan bwysig o ‘Enfys’ - yn cyfeilio a chyfansoddi ar eu cyfer.
Dewiswyd yr enw ‘Enfys’ arnynt am sawl rheswm. Yn gyntaf, oherwydd fod saith ohonynt, ac yn ail oherwydd fod lliw arbennig i bob llais, sydd wrth gyd-ganu yn creu cyfanwaith bendigedig. Maent hefyd yn gymeriadau cryf sy’n cyd-dynnu ac yn mwynhau cynnal cyngherddau ledled Cymru.
Maent wedi bod yn hynod o brysur yn diddori cynulleidfaoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi ymddangos ar Wedi 7 a’r Noson Lawen.

 
Voices from the Valley PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Cowbridge Male Voice Choir/Cor Meibion y Bontfaen –
Voices from the Valley/ Lleisiau o’r Cwm
Aran 521


 
Cor Meibion Caernarfon PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Cor Meibion Caernarfon Male Voice Choir: ‘COFIO’ ARAN517

Mae’r casgliad yma yn dathlu deugain mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Caernarfon. Yn y cyfnod hwnnw y mae’r Côr wedi sefydlu ei le ymhlith y grwpiau lleisiol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Er hynny mae ei wreiddiau’n aros yn nwfn yn y gymuned ac yng nghanol y cyfnod yma o ddathlu, ymddengys bod geiriau agoriadol Waldo a ddefnyddir yn y gân ‘Cofio’, yn rhai hynod addas....

Cofio : Waldo Williams
Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.


This recording celebrates the fortieth anniversary of the Caernarfon Male Voice Choir. Since it’s inception it has forged its own unique place amongst the foremost vocal ensembles in Wales. However it remains as firmly rooted in it’s community as ever and during this time of celebration, the opening verse of ‘Cofio’ - a setting of the poem by Waldo Williams, seems particularly relevant.....


 
Carolau Seiriol PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

A collection of Welsh Carols featuring
Côr Seiriol
Musical Director – Gwennant Pyrs
and
Beaumaris Band
Musical Director – Gwyn Meredydd Evans


 
Cilfach PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

CILFACH - DYDDIAD RHYDDHAU HYDREF 6ed 2008

Canwr ifanc yn Adennill lle’r Piano
Ar y 6ed o Hydref bydd Recordiau Aran yn rhyddhau yr EP gyntaf gan y Canwr a’r Cyfansoddwr - Ynyr Llwyd. Teitl y CD ydy ‘Cilfach’ ac mae’r chwech o ganeuon sydd arni yn dangos ei fedr i gyfansoddi wrth y piano mewn arddull wreiddiol a chyfoes.
“Mae cymaint o fandiau ifanc sydd yn defnyddio gitâr, bas, a drymiau,” meddai Ynyr, ”ond dim cymaint o bianyddion cyfoes sydd yn cyfansoddi caneuon gyda band. Mewn ffordd, dwi’n ceisio codi ymwybyddiaeth yr offeryn, a’i ymestyn tu hwnt i arddulliau clasurol yn unig, sef beth y cysylltir y piano ag ef gan amlaf.”
Ond dychwelyd at y piano mae Ynyr oherwydd fe’i hadnabyddir hyd yn hyn fel gitarydd yn y gr?p ‘Labrinth’.
“Rwyf wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oeddwn i’n ddim o beth, ar biano a gitâr, ond y piano yw’r offeryn agosaf at fy nghalon”.
Roedd ei frawd Rhys yn gyd-aelod o’r band a’i fam yw’r gantores werin a cherdd dant adnabyddus, Leah Owen.

 
Y Briodas Gymreig / A Welsh Wedding PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Y Briodas Gymreig / A Welsh Wedding

Express your Welsh identity through music !
• Featuring Carys Owen (harp) and Huw Williams (organ)
• Romantic Welsh folk melodies for harp in arrangements by Nansi Richards (Telynores Maldwyn) and John Thomas (Pencerdd Gwalia) amongst others.
• Original compositions for organ by Karl Jenkins and William Mathias
• Processionals in different durations to suit the size of the venue
• Also includes the International favourites ‘Here comes the bride’ by Richard Wagner and Mendelssohn’s ‘Wedding March’

Mynegwch eich hunaniaeth Gymraeg trwy gerddoriaeth !

• eitemau gan Carys Owen (telyn) a Huw Williams (organ)
 
Perthyn PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Brawd a chwaer, y ddau ohonynt yn gantorion adnabyddus -yma am y tro cyntaf efo’i gilydd.

Mae gan Siân gefndir clasurol ac mae’i doniau wedi mynd â hi o lwyfannau eisteddfodau lleol i’r byd canu opera proffesiynol.  Adnabyddir Emyr am fath arall o opera sef ei ran fel ‘Meical’ yn yr opera sebon ‘Rownd a Rownd’. Clywir hefyd mewn sioeau cerdd a drwy berfformiadau bywiog efo’i band – ‘Emyr Gibson a’r Band’.

Yma maent yn creu dehongliadau newydd, cyffrous o ganeuon poblogaidd; eu dwy steil gwahanol yn asio yn y modd mwyaf naturiol. Profir unwaith eto, ymysg cantorion, pa mor hynod lwyddiannus ydy cywaith teuluol.

Brother and sister, both distinguished singers in their own fields - together here for the first time.

Siân has a classical background and her vocal prowess has taken her from the stages of local ‘eisteddfodau’ to the world of professional opera. Emyr is

 
Oes o gan PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Katie Wyn: Oes o Gan

Casgliad o ganeuon gan y diweddar Katie Wyn Jones wedi eu dethol gan ei theulu.
Rhestr traciau / Track listing :

1.Clyw Ni, Fwyn Waredwr
2.Dy Garu Di  (Fenwick ) 
3.Craig y Oesoedd (Petra)
4.Drosom Ni
5.Ymgysegriad
6.Gawn ni gwrdd?
7.Mae Robin yn Swil
8.Nefol Dad Mae Eto’n Nosi 
9.Pan Wyf yn Teimlo’n Unig Lawer Awr 
10.Tawel a Thyner

 
Hei Ti PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Emyr Gibson a'r Band - Hei Ti

Dyma’r record fasnachol cyntaf i’r band rhyddhau, ond maent wedi bod yn gweithio ar y deunydd ers 2 flynedd ac yn gigio’n gyson ers blwyddyn. Roc melodig ydy disgrifiad Emyr o steil y band. "Y mae hwnnw’n cyd fynd efo steil fy llais" meddai’r canwr a adnabyddir fel unawdydd yn sioeau cerdd yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd. Derbyniodd addysg gerddorol drwyadl iawn trwy fynychu Ysgol Glanaethwy, a thrwy wersi gan ei chwaer, y gantores glasurol Siân Wyn Gibson. Mae hefyd yn brysur yn chwarae rhan ‘Meical’ yn yr opera sebon poblogaidd – ‘Rownd a Rownd’.

This is the band’s first commercial release after working on the material for the last two years, and performing regularly over the last year. Emyr Gibson describes their music as "melodic rock" which compliments his style of singing. Emyr is well known for his lead roles in musicals, having featured in professional productions staged at the National and Urdd Eisteddfod. He received a

 
Caneuon Ysbrydol PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

Elwyn Wilson Jones

Adnabyddir Elwyn Wilson Jones trwy Gymru gyfan fel aelod o Hogia’r Wyddfa. Mae Elwyn, Arwel a Myrddin wedi recordio dros ugain o recordiau ers 1965. Yn ogystal â’i chyngherddau diri ym mhob cornel o Gymru maent wedi teithio i ganu yn yr Unol Daleithiau dri gwaith, Canada dwywaith, Awstralia a Nigeria!

Mae recordio’r casgliad yma o ganeuon gospel wedi bod yn uchelgais ers y cychwyn cyntaf. Deunydd sydd yn agos iawn i’w galon ac yn gweddu’n
 
Gwnewch Popeth yn Gymraeg PDF Argraffu Ebost
There are no translations available.

A Collection of popular Welsh songs in traditional and modern jazz arrangements

Only recently has jazz been heard in the Welsh language. However the first jazz songs were adaptations of popular songs of the day. By adapting our own popular songs we not only embrace this thrilling form of music but also celebrate the wealth of our own culture.

Gwnewch Bopeth yn Gymraeg! Dyma’r tro cyntaf i fand jazz hir sefydledig gael gafael ar gasgliad o ganeuon Cymraeg. Clywir yn ei triniaeth amryw o arddulliau; y "traddodiadol" o’r oes cynnar yn New Orleans, trwy gyfnod "swing" y 1930-40au hyd at rythmau modern R&B (Rhythm & Blues).

Datblygodd jazz yn y man cyntaf trwy ddehongliadau offerynnol o ganeuon poblogaidd yr oes. Mae nifer o’r caneuon Cymraeg yma yn dod o’r un oes a’r clasuron cynnar Americanaidd. Does rhyfedd felly eu bod mor addas ag yn derbyn y driniaeth yma mewn ffordd mor naturiol. Mae yma ddehongliadau hyfryd o ganeuon traddodiadol gwerinol fel "Suo Gân" ynghyd â hwyl a ffraethineb y caneuon "ffwrdd a hi"!

 
Tudalen 1 o 2