Mae'r CD yma o'r Cor y Traeth yr un orau maen't wedi ei recordio yn fy meddwl i. Mi oedd y rhai eraill yn wych, ond mae hon yn arbennig iawn, dwi yn e... 17.12.10 By H. Renshaw
Artist: Cor Meibion y Traeth Rhif catalog: ARAN518 Dyddiad rhyddhau: Rhagfyr 5ed 2010
Mae wedi bod yn flwyddyn o ddathlu i un o brif Corau Meibion y Gogledd. Mae’n deugain mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Y Traeth yn ardal Benllech,Ynys Môn. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal i nodi’r achlysur, ac ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd llyfr yn olrhain hanes y Côr, ond fel uchafbwynt i’r cyfan mae’r Côr wedi rhyddhau CD newydd o’r enw ‘Dathlu Deugain’.
Fe ffurfiwyd y Côr er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Môn yn 1969. Dim ond 14 o leisiau oedd yno ar y dechrau o dan arweiniad Mrs Magdalene Jones, athrawes leol a gwraig i’r bardd Dewi Jones. Ers hynny mae yna naw o arweinyddion wedi bod gan y Côr a’r arweinyddes presennol ydy Annette Bryn
Parri. Ar y llaw arall, dim ond dwy gyfeilyddes sydd wedi bod trwy’r holl flynyddoedd gan bod y gyfeilyddes bresennol, Grês Pritchard MBE wrth y piano ers 1970.
Fe dyfodd maint y Côr yn sydyn iawn ac ymestyn ei gorwelion tu hwnt i Eisteddfod Môn; Erbyn hyn mae’r Côr wedi bod yn fuddugol ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol pedwar gwaith ac wedi ymweld â Chanada, Denmarc, Hong Kong, Lorient, Yr Eidal a’r Unol Daleithiau.
Yn 1988 fe logwyd theatr enwog y ‘Duke of Yorks’ yn y ‘West End’ er mwyn iddynt gynnal cyngerdd yno, a bu’r cyfan yn destun rhaglen deledu arbennig. Cafodd y Côr y fraint o gynrychioli Prydain Fawr yng Ngw^yl Gorawl Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Vienna yn 1991 i goffáu dau can mlynedd ers farwolaeth Mozart. Uchafbwynt arall oedd canu yng Nghymanfa Fawr Gogledd America yn Milwaukee.
Hon yw’r wythfed record i’r Côr rhyddhau ac mae’n cynnwys amrywiaeth diddorol o gerddoriaeth ymhlith y deuddeg o draciau. Ceir caneuon ysgafn, emynau a darnau cyngerdd heriol. I gefnogi’r perfformiadau gwych yma bu Annette Bryn Parri yn brysur yn Stiwdio Aran yn gosod offerynnau ychwanegol ar bob trac. Mae’n rhaglen liwgar, amrywiol efo rhywbeth at dant pawb.
Mae'r CD yma o'r Cor y Traeth yr un orau maen't wedi ei recordio yn fy meddwl i. Mi oedd y rhai eraill yn wych, ond mae hon yn arbennig iawn, dwi yn ei mwynhau...yn methu cael digon ohonni.
Comments
RSS feed for comments to this post