|
Cerddoriaeth addas ar gyfer gweithgareddau megis iachau, myfyrdod, ac ymlacio gan y pianydd a’r cyfansoddwr amryddawn.
1 Myfyrdod / Meditation   2 Machlud / Sunset 3 Meddyliau / Thoughts  4 Gorwel / Horizon 5 Sirioldeb / Serenity  6 Gobaith / Hope 7 Hiraeth / Longing  8 Tangnefedd / Peace 9 Dedwyddwch / Contentment 10 Gorfoledd / Joy
|
|
|

|
|
|
Ers 2008, mae Annette Bryn Parri wedi bod yn cynnal sesiynau cerdd i blant ag anghenion arbennig yn Ysgol Pendalar, Caernarfon ac Ysgol y Bont, Llangefni.
Er bod gan rhai o’r plant anableddau corfforol a meddyliol dwys, mae ymateb y plant i`r math yma o gerddoriaeth fyrfyfyr yn gryf iawn yn, gan arwain at symudiadau corfforol ac ymateb emosiynol.
Yn ystod y sesiynau hyn, mae Annette yn ymateb i ystum corfforol a llafar y plant, gan ganiatáu iddyn nhw arwain a dylanwadu ar natur y gerddoriaeth. Gwnaed y recordiad yma gyda chymorth Jack Swift sy`n ddisgybl yn Ysgol y Bont. Mae gan Jack gariad mawr at gerddoriaeth, ac mae gan Annette berthynas agos iawn ag ef.
|
|
|
|
|
Prynwch copi caled - Myfyrdod / Mediatation
NEU
Lawrlwythwch·traciau neu'r record cyfan: 
|