Mae'r CD yma o'r Cor y Traeth yr un orau maen't wedi ei recordio yn fy meddwl i. Mi oedd y rhai eraill yn wych, ond mae hon yn arbennig iawn, dwi yn e... 17.12.10 By H. Renshaw
Daw ffrindiau Emyr a Siân ynghyd i gyfrannu i’w hail gasgliad gwych o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg.Gyda Bryn Terfel, David King, Annette Bryn Parri, Catrin Alaw, Elin Llwyd, Steve Pablo ac Owain Gethin Davies.
Mae’n amlwg bod byd y brawd a’r chwaer yn llawn o gerddoriaeth gan bod yna gyfoeth o gerddorion adnabyddus iawn ymhlith eu ffrindiau.
Eglurodd Emyr gymaint oedd arwyddocâd cyfraniad Bryn Terfel i ‘Agnus Dei’ gan Robat Arwyn. “Mae Siân wedi tyfu i fyny efo fo yn y byd canu, pan oedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn eisteddfodau, ond roedd o’n brofiad mawr i mi.”
Hefyd yn chwarae’r corn ar y gân honno mae’r cerddor David King, sy’n adnabyddus iawn fel arweinydd a chwaraewr. “Mewn cyngerdd ychydig o flynyddoedd yn ôl, buom ni yn rhannu llwyfan efo'r enwog Yorkshire Building Society Brass Band dan arweiniad David King. Daeth draw i ganmol ein perfformiad ac fe dyfodd y cysylltiad o hynny.”
Wrth gwrs, rhywbeth anodd ydy dethol casgliad o ddeuawdau i frawd a chwaer a dyna reswm arall am ddewis themâu fel ‘Perthyn’ a ‘Ffrindiau’ ar gyfer ei recordiau. Teitlau sydd hefyd yn disgrifio natur ac agosatrwydd y ddau. Mae Emyr yn adnabyddus am chwarae rhan Meical yn y gyfres deledu Rownd a Rownd, tra bod Siân yn gantores glasurol broffesiynol ac yn dysgu o amgylch Ysgolion.
Mae’r caneuon yn cynnwys dwy gan Ryan Davies – ‘Yn y Bore’ a ‘Nadolig? Pwy a yr?’. “Mae caneuon Ryan yn glasuron, ac yn addas iawn ar ein cyfer. “Does neb wedi eu recordio nhw ers blynyddoedd chwaith.”
Y cantorion eraill sy’n cyfrannu i’r CD ydy Catrin Alaw, sy’n ferch i Siân, ac Elin Llwyd sy’n gariad i Emyr. Felly mae’n amlwg bod dim angen iddynt edrych yn bell iawn er mwyn creu cywaith cerddorol.
“Dyna sut oeddan ni’n gallu gwneud y CD – am bod ein ffrindiau wedi’n helpu ni allan fel hyn, ac mi faswn i’n hoffi diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cymryd rhan.”
1. Yn Y Bore gyda / with Steve Pablo (gitâr / guitar )